Beca Brown
| Beca Brown | |
|---|---|
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, ysgrifennwr, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, golygydd |
| Swydd | Aelod o 7ed Senedd Cymru |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
| Tad | Duncan Brown |
| Plant | Leisa Gwenllian |
Gwleidydd o Gymraes yw Beca Brown sy'n aelod o Blaid Cymru. Mae hi'n un Aelodau'r Senedd ers etholiad 2026, a hynny dros etholaeth Gwynedd Maldwyn. Mae hi wedi gweithio fel awdur, newyddiadurwr ac ym myd teledu fel cyfarwyddwr a cynhyrchydd.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganwyd i rieni o Loegr a symudodd i Gymru. Roedd ei mam yn dod o Birmingham a'i thad o Swydd Derby. Cafodd addysg Gymraeg ers mynychu Ysgol Feithrin yn Nyffryn Ardudwy. Er hynny, Saesneg oedd iaith yr aelwyd nes i'w rhieni dechrau ddysgu Cymraeg. Erbyn ei harddegau symudodd y teulu o Ardudwy i ardal Caernarfon, a mynychodd Ysgol Syr Huw Owen. Penderfynodd ei rhieni ddechrau siarad Cymraeg adref pan oedd tua 13 mlwydd oed, er fod hynny yn teimlo'n chwithig iddi.[2]
Aeth i Brifysgol Caerdydd gan raddio gyda BA er Anrhydedd yn y Gymraeg.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd fel newyddiadurwr yn 1994 gan ysgrifennu erthyglau nodwedd i'r Western Mail. Ymunodd ag ITV Cymru yn 1997 gan weithio fel newyddiadurwr ar y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar. Symudodd i gwmni cynhyrchu Fflic yn 1999 gan gyfarwyddo rhaglenni ar gyfer S4C a'r BBC. Aeth ymlaen i fod yn gynhyrchydd teledu gyda Cwmni Da rhwng 2012 a 2017. Rhwng Ebrill 2017 a Medi 2018 roedd yn Olygydd llyfrau Cymraeg gyda Gwasg Gomer.[3]
Bu'n golofnydd yng nghylchgrawn Barn am 26 mlynedd.
Rhwng 2018 a 2022, bu'n gweithio gyda gwefan SaySomethinginWelsh fel awdur ac yna golygydd cynnwys.[4]
Gyrfa gwleidyddol
[golygu | golygu cod]Bu'n gweithio fel un o swyddogion cyfathrebu Siân Gwenllian rhwng 2016 a 2018. Yna, fe'i hetholwyd i Gyngor Gwynedd ar ran Plaid Cymru yn 2021 - bu'n gynghorydd sir nes iddi gael ei hethol i'r Senedd yn 2026, a hi oedd deilydd portffolio addysg y cyngor am gyfnod.[4]
Bywyd personol
Mae ganddi ddau o blant, ac mae'r ddau wedi tyfu i fod yn actorion, Leisa Gwenllian a Tomi Llywelyn.[5]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Corcyn Heddwch (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)[6]
- Blwyddyn Fawr Glyn Wise (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Cyfres Amdani: Gwers Mewn Cariad (Gwasg Gomer, Medi 2018)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Beca Brown. BBC Cymru (2007). Adalwyd ar 13 Hydref 2020.
- ↑ ‘Newidiodd iaith y teulu dros nos’ , BBC Cymru Fyw, 12 Hydref 2020.
- ↑ Gwasg Gomer yn “hollol dawel” eu meddwl. Golwg360 (21 Gorffennaf 2017).
- 1 2 (Saesneg) LinkedIn - Beca Brown.
- ↑ "Yr ifanc a ŵyr: Beca Brown a Leisa Gwenllian". BBC Cymru Fyw. 2026-09-23. Cyrchwyd 2026-10-15.
- ↑ Gwefan Gwales; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Chwefror 2015
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Beca Brown ar X