Gran Sasso d’Italia
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Gran Sasso d'Italia)
| Math | masiff |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 2,912 metr |
| Cyfesurynnau | 42.4692°N 13.5653°E |
| Cadwyn fynydd | Appennino Abruzzese |
![]() | |
Mynydd yn rhanbarth Abruzzo yng nghanolbarth yr Eidal yw'r Gran Sasso d'Italia. Y mynydd yw canolbwynt parc cenedlaethol Parco Nazionale del Gran Sasso e Monti della Laga, a sefydlwyd yn 1993, ac ef yw copa uchaf mynyddoedd yr Apenninau. Y ddinas agosaf yw L'Aquila, 16 km i ffwrdd o dref fechan Assergi wrth droed y mynydd.
Mae tri copa i'r mynydd; yr uchaf yw Corno Grande, 2,912 medr o uchder. Y ddau arall yw Corno Piccolo a Pizzo Intermésoli. Islaw y Corno Grande mae rhewlif Calderone.
