Neidio i'r cynnwys

Gwrthdaro'r banditiaid yn Nigeria

Oddi ar Wicipedia
Gwrthdaro'r banditiaid yn Nigeria
Image
Banditiaid arfog yn eu gwersyll yn Nigeria (Chwefror 2021).
Enghraifft o:gwrthdaro Edit this on Wikidata
Rhan oHerder–farmer conflicts in Nigeria Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2011 Edit this on Wikidata
LleoliadNorth West Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthdaro cyfredol yn Nigeria yw gwrthdaro'r banditiaid a ymleddir rhwng lluoedd y llywodraeth ffederal ac amryw gangiau troseddol, milisiâu ethnig, a therfysgwyr, a elwir yn gyffredinol yn "fanditiaid". Lleolir y gwrthdaro yn bennaf yng ngogledd-orllewin y wlad, gan gynnwys taleithiau Zamfara a Niger. Cychwynnodd yn 2011 yn bennaf o ganlyniad i'r ansefydlogrwydd a achoswyd gan y gwrthdaro cymunedol a'r gystadleuaeth dros dir rhwng bugeiliaid nomadaidd (Ffwlanïaid Mwslimaidd yn bennaf) a ffermwyr (Hawsaid Cristnogol yn bennaf). Er mai arian ydy prif gymhelliad y gangiau, mae banditiaeth yn Nigeria yn gysylltiedig â gwrthdaro ethnig a chrefyddol yn ogystal â thor-cyfraith cyfundrefnol ac herwriaeth.

Nodweddir ymosodiadau'r banditiaid gan gyrchoedd ar bentrefi a threfi i ladd, treisio, ac herwgipio'r trigolion, ac i ysbeilio a llosgi tai. Rhwng Rhagfyr 2020 a Gorffennaf 2021, cipiwyd mwy na mil o ddisgyblion o'u hysgolion a'u dal yn wystlon am bridwerth.[1] Mae miloedd o Nigeriaid wedi ffoi i rannau eraill o'r wlad i geisio osgoi'r banditiaid.

Banditiaeth yw un o'r prif fygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol Nigeria, ac mae'r gwrthdaro hwn yn cyd-ddigwydd â sawl rhyfel ac argyfwng cyfredol arall yn y wlad, gan gynnwys jihad Boko Haram, gwrthryfel Pobl Frodorol Biaffra, a'r argyfwng olew yn Nelta Niger.[1]

Llinell amser o'r prif ymosodiadau

[golygu | golygu cod]
  • 18 Ebrill 2020
Llofruddiwyd 47 o bobl mewn pentrefi yn Nhalaith Katsina yn ystod oriau mân y bore, gan grwpiau o ryw 300 o ddynion arfog.[2]
  • 4–6 Ionawr 2022
Llofruddiwyd mwy na 200 o bobl yn Nhalaith Zamfara, gan ddynion arfog a deithiodd o bentref i bentref ar feiciau modur.[3]
  • 26 Mawrth 2022
Ymosodwyd ar Faes Awyr Kaduna, gan ladd un gwarchodwr ar y llwybr glanio. Cafodd yr ymosodwyr eu gyrru i ffwrdd gan filwyr a oedd yn diogelu'r maes awyr.[4]
  • 28 Mawrth 2022
Ymosodwyd ar drên ar ei daith o'r brifddinas Abuja i Kaduna gan ddynion arfog, a bu hefyd ffrwydrad.[5] Lladdwyd o leiaf wyth o bobl[6] ac herwgipiwyd dros 60 o'r teithwyr.[7] Yn ôl y llywodraeth, cyflawnwyd yr ymosodiad gan fanditiaid yn cydweithio â therfysgwyr jihadaidd, mwy na thebyg Boko Haram. Ymatebodd y lluoedd arfog gyda chyrch awyr ar fintai o "derfysgwyr" mewn coedwig ar y ffin rhwng taleithiau Kaduna a Niger.[8] Rhyddhawyd pob un o'r gwystlon erbyn 6 Hydref 2022.[9]
  • 23–24 Rhagfyr 2023:
Ymosodwyd ar 17 o gymunedau gwledig yn Nhalaith y Llwyfandir, gan ladd mwy na 160 o bobl ac anafu o leiaf 300.[10] Nid yw'r un grŵp wedi hawlio'r cyflafanau eto, ond credir mai milisiâu Ffwlani sydd ar fai.[11] Cafodd yr ymosodiadau eu galw'n "Nadolig Du" gan y wasg yn Nigeria.[12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 (Saesneg) "Nigeria's security crises - five different threats", BBC (19 Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Ionawr 2024.
  2. ↑ (Saesneg) "Armed bandits kill at least 47 in Nigeria’s Katsina state: Police[dolen farw]", Al Jazeera (19 Ebrill 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  3. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2022-01-09 yn y Peiriant Wayback", BBC (9 Ionawr 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  4. ↑ (Saesneg) Abubakar Ahmadu Maishanu, "Archifwyd 2024-01-02 yn y Peiriant Wayback", Premium Times (26 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 29 Mawrth 2022.
  5. ↑ (Saesneg) Garba Muhammad, "Archifwyd 2023-03-08 yn y Peiriant Wayback", Reuters (30 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  6. ↑ (Saesneg) Dirisu Yakubu, "Abuja-Kaduna Train Attack: Politician, medical doctor, unionist among dead passengers", Vanguard (29 Mawrth 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  7. ↑ (Saesneg) Chinelo Obogo, "dudalen we wreiddiol Terrorists free 4 Abuja-Kaduna train attack victims", The Sun ( 26 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 2 Ionawr 2024.
  8. ↑ (Saesneg) Odita Sunday a Njadvara Mua, "Archifwyd 2023-01-09 yn y Peiriant Wayback", The Guardian (1 Ebrill 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  9. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2024-06-17 yn y Peiriant Wayback", (6 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  10. ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-12-25 yn y Peiriant Wayback", The Guardian (25 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  11. ↑ (Saesneg) Chinedu Asadu, "Archifwyd 2023-12-26 yn y Peiriant Wayback", Associated Press (26 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.
  12. ↑ (Ffrangeg) "Archifwyd 2023-12-27 yn y Peiriant Wayback", Radio France internationale (28 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2024.