Neidio i'r cynnwys

John Lewis (cyhoeddwr)

Oddi ar Wicipedia
John Lewis
Bu farw2 Tachwedd 2026 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyhoeddwr, golygydd llenyddol Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Lewis, Gwasg Gomer Edit this on Wikidata

Roedd John Lewis (1931/1932 – 2 Tachwedd 2026) yn Reolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Edward Lewis a gymrodd yr awenau yng Ngwasg Gomer oddi wrth ei dad ef, John David Lewis.

Astudiodd John y Gyfraith yn Llundain, gan ddychwelyd i Landysul yn 1959 i redeg Gwasg Gomer gyda’i gefnder Huw Lewis yn dilyn marwolaeth eu tadau Edward a Rhys Lewis. Fel ei dad o’i flaen, canolbwyntiodd ar yr ochr gyhoeddi ac ar weinyddiaeth y cwmni’n gyffredinol a Huw, fel ei dad yntau, yn bennaf ar yr ochr argraffu.

Ymddeolodd ar ddiwedd y 1990au a daeth ei fab yntau, Jonathan Lewis, yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.

Cyhoeddodd ei hunangofiant Creu Argraff yn 2012. Bu farw yn 94 mlwydd oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Teyrnged i "gawr" ym myd llyfrau Cymru: John Lewis, Gwasg Gomer". Golwg360. 2026-11-02. Cyrchwyd 2026-11-02.