Neidio i'r cynnwys

Llanelli Star

Oddi ar Wicipedia
Llanelli Star
Enghraifft o:papur newydd Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1909 Edit this on Wikidata
PerchennogLocal World Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.llanellistar.co.uk/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae'r Llanelli Star yn bapur newydd rhanbarthol sy'n ymdrin ag ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin. Cyhoeddodd y rhifyn gyntaf ar 9 Hydref 1909.[1] Caiff ei gyhoeddi'n wythnosol ar ffurf tabloid. Cyhoeddir y papur newydd gan Trinity Mirror, yr un cwmni sy'n gyfrifol am y South Wales Evening Post. Yn 2012 prynodd Local World y cwmni Northcliffe Media – perchennog South West Wales Publications – gan Daily Mail and General Trust.[2] Geoffrey Lloyd oedd y golygydd o 1965 hyd nes iddo farw ym 1986.[3]

Erbyn 2026 roedd llawer mwy o ddarllenwyr o'r Llanelli Star ar eu tudalen Facebook (37,000 dilynydd ym mis Hydref 2026)[4] na'r gwerthiant wythnosol o oddeutu 1,300 copi.[5]

Rhifynnau

[golygu | golygu cod]

Mae gan y Llanelli Star bapur chwaer, y Carmarthen Journal. Yn wreiddiol, cyhoeddid y Star ar ddydd Iau, ond bellach mae'r ddau yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mercher. Mae gan y ddau bapur fformatau gwahanol, a chynnwys newyddion sy'n amrywio yn ôl ardal.

Mae'r Llanelli Star yn ymdrin ag ardal Llanelli a Dyffryn Gwendraeth, tra bod y Carmarthen Journal yn ymdrin â thref Caerfyrddin yn ogystal â Dyffryn Gwendraeth.

Is-Argraffiadau

[golygu | golygu cod]

Llanelli Star

[golygu | golygu cod]

Mae tri rhifyn o’r Llanelli Star, sef prif rifyn tref Llanelli, rhifyn Porth Tywyn a rhifyn Cwm Gwendraeth a gafodd ei ail-lansio ddiwedd 2011.

Carmarthen Journal

[golygu | golygu cod]
  • Tref Caerfyrddin
  • Cwm Gwendraeth
  • Aberteifi
  • Llandeilo
  • Llambed
  • Hendy-gwyn

Sosbanelli

[golygu | golygu cod]

Yn 2002 dechreuwyd gyhoeddi atodiad iaith Gymraeg gyda'r papur o'r enw Sosbanelli. Erbyn 2007 roedd hyn wedi crebach i un dudalen yr wythnos.

Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddwyd y byddai swyddfa'r Llanelli Star yn Cowell Street, Llanelli, yn cau.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Llanelli Star". Find My Past. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  2. ↑ Daily Mail sells regional newspapers to Local World BBC News, 21 Tachwedd 2012
  3. ↑ "Editors' guild president dies". The Glasgow Herald. 29 Rhagfyr 1986. t. 3 – drwy Google News Archive.
  4. ↑ "Llanelli Star". Tudalen Facebook Llanelli Star. Cyrchwyd 15 Hydref 2026.
  5. ↑ "Llanelli Star". Audit Bureau of Circulations (UK). 8 Chwefror 2024. Cyrchwyd 18 Mehefin 2024.
  6. ↑ "Newyddion Cymru Ar-Lein : Wales News Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-06. Cyrchwyd 2026-10-15.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]