Llywelyn ein Llyw Olaf (pryddest)
- Mae'r erthygl hon am y gerdd gan Elfed. Ar gyfer y ffigwr hanesyddol, gweler Llywelyn ap Gruffudd.

Pryddest yw Llywelyn ein Llyw Olaf (yn wreiddiol: Llewelyn ein Llyw Olaf) gan y bardd Cymraeg Elfed. Cyfansoddwyd y gerdd ar gyfer cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu yn 1889, a'r gerdd hon enillodd y gystadleuaeth. Testun y gerdd yw diwedd teyrnasiad Llywelyn ap Gruffudd fel Tywysog Cymru yn 1282, a'i farwolaeth.
Cynnwys y gerdd
[golygu | golygu cod]Cerdd naratif sy'n disgrifio blynyddoedd olaf y Tywysog, mae'n dechrau gyda Llywelyn yn glanio ar Ynys Môn ac yn gorffen gyda'i farwolaeth wrth law milwyr Seisnig. Yn y gerdd hon pwysleisir rôl brad gan Gymry eraill yn nhranc Llywelyn.
Mesur
[golygu | golygu cod]Mae'r gerdd yn bryddest ar ffurf cwpledau odledig hir - pedair ar ddeg neu bymtheg sill - ar ei hyd. Mae'r gerdd yn gwneud defnydd cymharol helaeth am y cyfnod o oferu sef bod brawddegau'n parhau'n o un llinell i'r nesaf heb oedi:
Nid ydyw cenedl yn genedl cyn dysgu cenhadaeth
Ei hysbryd a'i theithi, ynghanol ymdrech dynoliaeth.
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]Yn ogystal ag yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod 1889, cynhwyswyd y gerdd yn y fersiynau o Ganiadau Elfed a gyhoeddwyd yn 1901, 1909 a 1954.
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]Yn unol â ffasiwn ei gyfnod ymddiddorai Elfed yn yr arwrgerdd ac roedd ei bryddest ar Llywelyn yn un o nifer fawr o bryddestau arwrol a gyfansoddwyd gan feirdd y 19g ar gyfer Coron yr Eisteddfod Genedlaethol neu gystadlaethau eraill llai uchel eu parch. Ychydig o ddarllen sydd ar y cerddi hyn erbyn heddiw - nid oedd yr un ohonynt o unrhyw werth barddonol ym marn Thomas Parry.[1]
Fodd bynnag, ac er nad yw beirniaid sy'n amddiffynol o waith Elfed ar y cyfan wedi gweld llawer o werth yn 'Llywelyn' chwaith,[2] y gerdd hon oedd ei "gampwaith" o blith ei gerddi hir chwedl un beirniad o gyfoeswr.[3] Mewn o leiaf dwy drafodaeth diweddarach ar yr arwrgerdd Gymraeg sonir am 'Llywelyn ein Llyw Olaf' fel y gorau o blith holl bryddestau arobyn y Goron yn y 19g: hithau'n unig ohonynt sy'n meddu ar unrhyw wir rinwedd lenyddol ym marn Derwyn Jones[4] ac mae'n "llawer mwy darllenadwy na'r rhan fwyaf o'i gyfoeswyr" chwedl E. G. Millward.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Oxford Book of Welsh Verse, gol. Thomas Parry (Rhydchen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1962), t.xvi. "They did not appear to posess any poetic merit."
- ↑ R. Gwilym Hughes, Y Goleuad, 22 Hydref 1982
- ↑ W. Eilir Evans, "Our Living Welsh Bards IV. Elfed", Young Wales, cyf. IX:104 (Awst 1903), tt.185-187
- ↑ Derwyn Jones, "Yr Arwrgerdd", yn Gwŷr Llên y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1965), t.244
- ↑ E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg: Ei Thwf a'i Thranc (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998), t.278