Methwsela
| Methwsela | |
|---|---|
| Ganwyd | ancient Near East |
| Bu farw | 2348 (yn y Calendr Iwliaidd) CC, 2105 (yn y Calendr Iwliaidd) CC |
| Tad | Enoch |
| Priod | Edna |
| Plant | Lamech |

Yn yr Hen Destament a'r Torah, y dyn hynaf a fu erioed yw Methwsela neu Methusela (hefyd: Methuselah neu Metushélach (Hebraeg: מְתוּשֶׁלַח / מְתוּשָׁלַח, Safonol Mətušélaḥ / Mətušálaḥ, Tiberiaidd Məṯûšélaḥ / Məṯûšālaḥ ; enw sy'n golygu naill ai "Gŵr y waywffon", neu "pan fydd farw yr anfonir / pan fu farw yr anfonwyd"). Mae'r enw Methuselah wedi dod yn drosiad cyffredin am unrhyw berson sy'n byw i fod yn hen iawn.
Cyfeirir ato yn Llyfr Genesis fel mab Enoc a thad Lamech, tad Noa. Cred rhai ysgolheigion fod ei enw Hebraeg yn tarddu o enw Babiloneg tybiedig Matu-sa-ili, sef "Dyn (neu ŵr) y dduwies." Dywedir y bu fyw i fod yn 969 mlwydd oed. Roedd yn 817 oed pan anwyd iddo ei fab Lamech (Gen. 5).
Yn y Llyfr Enoc apocryffaidd, sy ddim yn cael ei dderbyn gan yr eglwysi heddiw, cyfeirir ato fel mab Enoc a dywedir i negesydd gan Dduw ei rybuddio am Y Dilyw a rhagfynegi dyfodiad y Meseia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Geiriadur Beiblaidd, gol. Thomas Rees ac eraill (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1926), d.g. "Methwsela"