Neidio i'r cynnwys

Mudiad meddalwedd rhydd

Oddi ar Wicipedia

Mudiad cymdeithasol yw'r mudiad meddalwedd rhydd (Saesneg: Free Software Movement neu FSM) neu fudiad meddalwedd agored/rhydd (Saesneg: free/libre open source software neu FOSSM) neu feddalwedd ffynhonnell agored/rhydd (FLOSS)[1] gyda'r nod o sicrhau a gwarantu rhyddid penodol ar gyfer defnyddwyr meddalwedd, sef y rhyddid i redeg y meddalwedd, i astudio ac i newid y meddalwedd, ac i ailddosbarthu copïau gyda neu heb newidiadau. Er ei fod yn tynnu ar draddodiadau ac athroniaethau ymhlith aelodau o ddiwylliant hacio a'r byd academaidd o'r 1970au, sefydlwyd y mudiad yn ffurfiol gan Richard Stallman yn 1983 drwy lansio Prosiect GNU.[2]

Sefydlodd Stallman y Free Software Foundation yn 1985 i gefnogi'r mudiad.

Athroniaeth

[golygu | golygu cod]

Athroniaeth y mudiad yw na ddylai'r defnydd o gyfrifiaduron arwain at bobl gael eu hatal rhag cydweithio â'u gilydd. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu gwrthod "meddalwedd perchnogol", sy'n gosod cyfyngiadau o'r fath, a hyrwyddo meddalwedd rhydd,[3] gyda'r nod yn y pen draw o rhyddhau pawb yn y seiberofod[4] – hynny yw, bob defnyddiwr cyfrifiadur. Nododd Stallman fod y weithred hon yn hybu yn hytrach na rhwystro datblygiad technoleg, am ei fod yn "golygu bod llawer o ddyblygu gwastraffus o waith rhaglennu system yn cael ei osgoi. Yn hytrach, gall yr ymdrech hon fynd at wella'r grefft bresennol".[5]

Mae aelodau o'r mudiad dros feddalwedd rhydd yn credu dylai holl ddefnyddwyr meddalwedd gael y rhyddid a restrir yn y Diffiniad Meddalwedd Rhydd. Mae llawer ohonynt yn credu ei bod yn anfoesol gwahardd neu atal pobl rhag gweithredu y rhyddid hyn a bod angen y rhyddid yma i greu cymdeithas weddus lle gall defnyddwyr meddalwedd helpu ei gilydd, ac i gael rheolaeth dros eu cyfrifiaduron.[6]

Mae rhai defnyddwyr a rhaglennwyr meddalwedd rhydd yn credu nad yw defnyddio meddalwedd perchnogol yn gwbl anfoesol, gan nodi mwy o elw yn y modelau busnes sydd ar gael ar gyfer meddalwedd perchnogol neu nodweddion technegol a chyfleustra fel eu rhesymau.[7]

Mae'r Free Software Foundation hefyd yn credu bod angen i holl feddalwedd rhydd gael dogfennaeth rhydd, yn benodol oherwydd dylai rhaglennwyr cydwybodol allu ddiweddaru llawlyfrau i adlewyrchu unrhyw addasiadau maent yn gwneud i feddalwedd, ond yn ystyried y rhyddid i addasu fod yn llai pwysig ar gyfer mathau eraill o weithiau ysgrifennedig.[8] O fewn y mudiad meddalwedd rhydd, mae sefydliad y Llawlyfrau FLOSS yn arbenigo ar y nod o ddarparu dogfennau o'r fath. Mae aelodau o'r mudiad meddalwedd rhydd hefyd yn argymell dylai gwaith sy'n gwasanaethu pwrpas ymarferol, hefyd fod yn rhydd.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Richard Stallman on the nature of the Free software movement in 2008 on emacs-devel mailing list.
  2. ↑ "Announcement of the GNU project". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-05. Cyrchwyd 2016-05-18.
  3. ↑ "Use Free Software". gnu.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-25. Cyrchwyd 2016-05-18.
  4. ↑ "Stallman interviewed by Sean Daly". Groklaw. 2006-06-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-27. Cyrchwyd 2016-05-18.
  5. ↑ "The GNU Manifesto". gnu.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-11. Cyrchwyd 2016-05-18.
  6. ↑ "Why free software?". gnu.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-04. Cyrchwyd 2016-05-18.
  7. ↑ "Copyleft: Pragmatic Idealism". gnu.org.
  8. ↑ "Free Software and Free Manuals". gnu.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-15. Cyrchwyd 2016-05-18.
  9. ↑ Stallman, Richard. "Why Open Source Misses the Point of Free Software". GNU Operating System. Free Software Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-04-25. Cyrchwyd 11 February 2013.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • David M. Berry, Copy, Rip, Burn: The Politics of Copyleft and Open Source, Pluto Press, 2008, ISBN 0-7453-2414-2
  • Johan Soderberg, Hacking Capitalism: The Free and Open Source Software Movement, Routledge, 2007,, ISBN 0-415-95543-2

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]