Neidio i'r cynnwys

Nerys Evans

Oddi ar Wicipedia
Nerys Evans
Nerys Evans


Cyfnod yn y swydd
3 Mai 2007 – 5 Mai 2011
Rhagflaenydd Helen Mary Jones
Olynydd Simon Thomas

Geni 1980
Llangain, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Manceinion
Prifysgol Caerdydd

Gwleidydd o Gymru ac aelod o Plaid Cymru yw Elizabeth Gwendoline Nerys Evans (ganed 1980). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Sir Gaerfyrddin ers Mai 2026. Roedd hefyd yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2007 a 2011.

Penodwyd yn Ddirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol ym mis Mai 2026 yn Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganed Nerys Evans yn Llangain ger Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Manceinion lle derbynniodd radd B.A. mewn Theori Lywodraethol a Gwleidyddol. Aeth yn ei blaen wedyn i dderbyn gradd M.Sc. mewn Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2004.[2]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cychwynodd ei gyrfa fel trefnydd i Blaid Cymru in Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a gweithiodd fel swyddog y wasg dros Blaid Cymru yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin. Cyn cychwyn gwaith fel Swyddog Gwleidyddol Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Dewiswyd Nerys i gynrychioli rhanbarth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007. Ar ddiwrnod yr etholiad cymerodd Nerys sedd Helen Mary Jones, a aeth yn ei blaen i ad-ennill sedd etholaeth Llanelli.

Ym mysg ei diddordebau gwleidyddol, mae Nerys yn weithgar mewn materion gwledig, hawliau gweithwyr, iechyd a rhwystro trais yn y cartref. Roedd yn llefarydd Plaid Cymru ar addysg ac yn gadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar gyfer epilepsi a bandllydan yng nghefn gwlad Cymru ac mae hi’n eistedd ar y Pwyllgor Menter a Dysgu. Yn 2008 enillodd Nerys gystadleuaeth ITV Wales yn y categori ‘Ymgyrchydd y Flwyddyn’ am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn trais yn y cartref. Yn ei amser hamdden mae Nerys yn mwynhau cefnogi tim rygbi Sgarlets Llanelli.

Cafodd ei dethol fel ymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ar gyfer etholiad 2011 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond daeth yn drydydd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi aelodau cabinet ei lywodraeth". newyddion.s4c.cymru. 2026-05-13. Cyrchwyd 2026-05-13.
  2. ↑ "Bywgraffiad ar Wefan Plaid Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-17. Cyrchwyd 2010-12-05.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Helen Mary Jones
Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
2007–2011
Olynydd:
Simon Thomas