Penrhyn Iberia
Gwedd
| Math | gorynys |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Ebro, Iberiaid |
| Cysylltir gyda | Pyreneau |
| Poblogaeth | 58,974,804 |
| Cylchfa amser | UTC+00:00, UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Sbaen, Portiwgal, Andorra, Gibraltar, Ffrainc |
| Arwynebedd | 596,740 km² |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Môr y Canoldir, Bae Bizkaia, Culfor Gibraltar |
| Cyfesurynnau | 40.24°N 4.2392°W |
![]() | |

- Mae Iberia yn ailgyfeirio yma. Am y diriogaeth hynafol yn y Cawcasws gweler Iberia'r Cawcasws.
Penrhyn mawr yn ne-orllewin Ewrop yw Penrhyn Iberia neu Iberia. Mae'n cynnwys tiriogaeth Portiwgal a Sbaen a hefyd Andorra a Gibraltar. Gorwedd ym mhen de-orllewinol cyfandir Ewrop, rhwng Môr y Canoldir i'r dwyrain a Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a'r gogledd (Bae Biscay). I'r de mae Culfor Gibraltar yn gwahanu penrhyn Iberia a gogledd-orllewin Affrica (Moroco a'r Maghreb). Ar y tir mawr mae cadwyn mynyddoedd y Pyreneau yn dynodi'r ffin ddaearyddol ac ecolegol rhwng penrhyn Iberia a gweddill Ewrop yn ogystal â'r ffin wleidyddol rhwng Ffrainc a Sbaen. Mae fflora a ffawna Iberia yn debyg i rai Gogledd Affrica. Mae gan y penrhyn arwynebedd o 593,250 km² (229,054 milltir sgwar).
