Neidio i'r cynnwys

Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran

Oddi ar Wicipedia
Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran
Image
Enghraifft o:gweithrediad milwrol, ymosodiad o'r awyr, rhyfel a gwrthdaro arfog, trosedd ymosodol Edit this on Wikidata
Dyddiad2026 Edit this on Wikidata
Lladdwyd4,859, 1,444, 15, 13, 687 Edit this on Wikidata
Rhan oArgyfwng y Dwyrain Canol (2023-presennol), gwrthdaro rhwng Israel ac Iran Edit this on Wikidata
Dechreuwyd28 Chwefror 2026 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganY Rhyfel Deuddeng Niwrnod Edit this on Wikidata
LleoliadTehran, Qom, Kermanshah, Isfahan, Karaj, Bushehr, Minab, Unol Daleithiau America, Israel, Iran, Ray Edit this on Wikidata
Yn cynnwysllofruddio Ali Khamenei, Cyrch Minab, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol Lloegr yn 2026, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol Americanaidd yn Ciwait, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol America yn Sawdi Arabia, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol yr UAE yn 2026, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol America yn Bahrain, Ymosodiad Israel ar Libanus, 2026, ymosodiadau ar ganolfanau milwrol America yn Catar, ymosodiadau honedig ar ganolfanau milwrol americanaidd yn Aserbaijan Edit this on Wikidata
GwladwriaethIran Edit this on Wikidata
RhanbarthTehran, Qom, Talaith Kermanshah, Karaj, Isfahan, Tabriz, Talaith Ilam, Lorestān (talaith) Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cychwynnodd Rhyfel America ac Israel ar Iran ar 28 Chwefror 2026, pan lansiodd Israel ac Unol Daleithiau America gyrchoedd awyr annisgwyl yn erbyn dinasoedd a thargedau ar draws Iran, gan ladd y Goruchaf Arweinydd Ali Khamenei, aelodau o'i deulu a nifer o wleidyddion a swyddogion milwrol eraill. Ymatebodd Iran gyda chyrchoedd taflegrau a dronau yn erbyn Israel a chanolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yng ngwladwriaethau Arabaidd y Gwlff.

Rhagflaenwyd y rhyfel hwn gan ryfel trwy ddirprwy rhwng Iran ac Israel a barodd ers 1985, ac a drodd yn "rhyfel poeth" yn y Rhyfel Deuddeng Niwrnod ym Mehefin 2025. Cynyddodd tensiynau eto yn 2026 yn sgil protestiadau yn erbyn llywodraeth Iran, a chyflafanau o wrthdystwyr a gondemniwyd gan yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Ar 28 Chwefror, lansiwyd cyrchoedd awyr gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) a Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau yn erbyn targedau ar draws Iran. Cyhoeddodd Israel Katz, Gweinidog Amddiffyn Israel, bod Israel bellach mewn "cyflwr o argyfwng arbennig a pharhaol", a datganodd Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, mai bwriad yr ymgyrch filwrol oedd i amddiffyn pobl ei wlad rhag bygythiad Iran.[1] Lansiodd Iran ymosodiadau ar Israel i dalu'r pwyth yn ôl, ac hefyd ar canolfan Pumed Fflyd Llynges yr Unol Daleithiau ym Mahrain a thargedau eraill yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, Catar, Gwlad Iorddonen, a Choweit.[2]

Datblygodd sawl ffrynt ychwanegol yn y rhyfel gan gynnwys'r sefyllfa yn Iraq a hefyd yn Libanus pan daniodd Hezbollah, sy'n cael ei gefnogi gan Iran, daflegrau at ogledd Israel i ddial am farwolaeth Ali Khamenei ac ymosidiad Israel ar dde Libanus. Danfonodd Israel ragor o luoedd dros y ffin i Libanus; roedden nhw'n dal yno ym Medi 2026, ac wedi lladd dros 9,000 o sifiliaid.[3] Ar 9 Mawrth, penodwyd Mojtaba Khamenei, mab Ali, yn arweinydd newydd y wlad.[4]

Mae union niferoedd y meirw a'r clwyfedigion yn ansicr, ond mae'n debyg bod miloedd wedi marw ar draws y Dwyrain Canol. Mae'r rhyfel wedi effeithio'n sylweddol ar bris olew a deunyddiau eraill megis gwrtaith, o ganlyniad i rwystrau Iran a'r UD ar longau yn llifo drwy Gulfor Hormuz. Ar 12 Mawrth, cynnyddodd pris olew crai i dros $100 y gasgen am yr eildro ers cychwyn y rhyfel yn sgil ymosodiadau gan Iran ar danceri olew yn y Gwlff.[5] Erbyn Medi 2026 roedd pris casgen o 'Brent Crude' yn $109.

Ar 8 Ebrill cytunodd Iran, yr Unol Daleithiau, ac Israel i gadoediad, wedi ei gyflafareddu gan Bacistan, am bythefnos.[6] Arwyddodd Trump Memorandwm o Ddealltwriaeth yn y Versailles, Ffrainc a oedd yn gosod 13 pwynt, pob un oddigerth i un yn ffafriol iawn i Iran.

Ar 10 Medi 2026 cyhoeddodd cyn-Ysgrifennydd Llynges yr Unol Daleithiau, Hung Cao, fod byddin Iran wedi chwalu safle 5ed fflyd llynges yr Unol Daleithiau yn gyrbibion (Saesneg gwreiddiol: blew the hell out of the U.S. Navy's 5th Fleet base in Bahrain.)[7]

Hynt y rhyfel

[golygu | golygu cod]

Yr wythnos gyntaf (28 Chwefror – 6 Mawrth)

[golygu | golygu cod]
28 Chwefror: Yr Arlywydd Trump yn annerch pobl yr Unol Daleithiau ar bwnc y cyrchoedd yn erbyn Iran.

Ar 27 Chwefror, 20:38Z,[8] wrth deithio ar awyren Air Force One i Corpus Christi, Texas, gorchmynnodd Donald Trump i Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau cychwyn ar Operation Epic Fury. Trannoeth, oddeutu 06:15Z[9] (canol bore yn Iran), dechreuodd lluoedd yr Unol Daleithiau ac Israel gynnal ymosodiadau ar y cyd yn erbyn Iran.[10] Digwyddodd y cyrchoedd yn ystod negodiadau ynglŷn â rhaglen niwclear Iran, ac yng nghanol mis sanctaidd Ramadan, pan fydd Mwslimiaid yn ymprydio o wawr hyd fachlud haul.[11]

Rhoddwyd yr enw Ymgyrch Rhuo'r Llew ar yr ymosodiadau gan Israel (cymharer ag Ymgyrch Codi'r Llew yn 2025). Cyhoeddodd Awyrlu Israel (IAF) ei fod wedi taro 500 o dargedau milwrol yng ngorllewin a chanolbarth Iran, y sortie fwyaf o'i math yn hanes y llu.[12] Targedwyd hefyd llongau o Lynges Iran. Yn ôl Israel, defnyddiwyd uwch na 1,200 o fomiau o fewn 24 awr gyntaf yr ymosodiadau. Cyhoeddodd swyddog o'r Unol Daleithiau fod degau o gyrchoedd wedi eu cyflawni gan awyrennau o ganolfannau milwrol y wlad yn y Dwyrain Canol ac o leiaf un cludydd awyrennau.

Roedd yr ymosodiadau'n targedu cyfleusterau taflegrau ac amddiffynfeydd awyr, seilwaith milwrol arall, ac arweinwyr Iran. Yn ôl swyddogion yr Unol Daleithiau ac Israel, roedd amseriad yr ymosodiad cychwynnol yn rhannol gysylltiedig â'r gallu i dargedu Ali Khamenei, Goruchaf Arweinydd Iran, cyn iddo fynd i guddio. Lladdwyd Khamenei yn y don gyntaf o ymosodiadau ar 28 Chwefror, gan gyrch awyr o Israel, ynghyd â degau o swyddogion uchaf eraill y wlad.[13] Creodd yr ymosodiadau ddadlau ar unwaith pan adroddwyd bod ysgol i ferched ym Minab, tref i'r dwyrain o Bandar Abbas, wedi'i tharo, gan ladd 156 o bobl, y mwyafrif ohonynt yn blant. Credir mai lluoedd yr Unol Daleithiau a gynhaliodd y cyrchoedd, yn ôl ymchwiliad rhagarweiniol gan fyddin yr Unol Daleithiau, tra'n targedu adeiladau cyfagos a oedd yn perthyn i ganolfan lyngesol yr IRGC.

Ymatebodd Iran gan lansio taflegrau a dronau yn erbyn Israel a chanolfannau milwrol yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, gan gynnnwys Catar, Coweit, a'r Emiradau Arabaidd Unedig. Ar 1 Mawrth bu farw chwe milwr wedi cyrch drôn ym Mhorthladd Shuaiba, Coweit, y lluoedd Americanaidd cyntaf i farw yn y rhyfel.

4 Mawrth: Fideo a gyhoeddwyd gan y Pentagon o dorpido Americanaidd yn taro'r IRIS Dena diarfau.

Ar 4 Mawrth, cafodd y ffrigad IRIS Dena ei suddo gan dorpido o'r USS Charlotte mewn dyfroedd rhyngwladol ger arfordir deheuol Sri Lanca, gan ladd o leiaf 87 o aelodau Llynges Iran. Dyma'r llong gyntaf i gael ei suddo gan long danfor niwclear mewn rhyfel ers 1982. Ar y pryd roedd mewn ymarferiadau nifer o longau tebyg, regata a drefnwyd gan India ac nid oedd ganddi arfau o unrhyw fath ar ei bwrdd.

Wrth i wythnos gyntaf y rhyfel ddod i ben, bu'r Arlywydd Trump yn ymorchestu mewn y brwydro, ac yn honni bod lluoedd yr Unol Daleithiau ac Israel yn "llwyr ddinistrio" Iran. Ar 6 Mawrth datganodd Pete Hegseth, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, y bydd ymgyrch filwrol ei wlad yn erbyn Iran yn "tyfu'n sylweddol" ac yn "dwysáu yn gyflym".[14]

Yr ail wythnos (7–13 Mawrth)

[golygu | golygu cod]

Ar 8 Mawrth, cyhoeddwyd Mojtaba Khamenei yn oruchaf arweinydd newydd Iran.

Ar 11 Mawrth, cynnyddodd Iran ei hymgyrch yng Nghulfor Hormuz, a thrannoeth, cyhoeddodd Khamenei ei ddatganiad ysgrifenedig cyntaf fel goruchaf arweinydd, gan gyfarwyddo'r lluoedd arfog i rwystro Culfor Hormuz.

Ar 13 Mawrth, cafwyd cyrchoedd i fomio Ynys Kharg gan luoedd yr Unol Daleithiau.

Y drydedd wythnos (14–20 Mawrth)

[golygu | golygu cod]

Ar 17 Mawrth lladdwyd dau arall o brif arweinwyr Iran: Ali Larijani, pennaeth ar y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, a Gholamreza Soleimani, arweinydd y Basij, rhan o'r IRGC.

Y bedwaredd wythnos (21–27 Mawrth)

[golygu | golygu cod]

Image   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y bumed wythnos (28 Mawrth – 3 Ebrill)

[golygu | golygu cod]

Image   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y chweched wythnos (4–7 Ebrill)

[golygu | golygu cod]

Image   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cadoediad (ers 7 Ebrill)

[golygu | golygu cod]

Ar 7 Ebrill, 39ain ddiwrnod y rhyfel, datganodd Trump y bydd cadoediad am bythefnos, gyda chadarnhâd Cyngor Diogelwch Cenedlaethol Iran. Fodd bynnag, parhaodd Israel i lansio cyrchoedd yn Libanus, gan honni nad oedd y wlad honno yn rhan o'r cadoediad.

Erbyn 12 Ebrill, bygythiodd yr Arlywydd Trump y bydd Llynges yr Unol Daleithiau yn rhwystro llongau rhag cyrraedd neu adael Culfor Hormuz, os yw Iran yn gosod tollau er mwyn penderfynu pwy all deithio drwy'r llwybr. Dywedodd gweinyddiaeth dramor Iran fod telerau tîm negodi'r Americanwyr yn "ormodol ac afresymol".[15]

Wnaeth y cadoediad ddim para'n hir oherwydd:

  • 8 Ebrill 2026: Ymosodiadau Israel ar Libanus. Oriau'n unig wedi'r cyhoeddiad ar 7 Ebrill, cynhaliodd yr IDF Israel ymosodiad enfawr ar draws Libanus a laddodd gannoedd o bobl ac anafu dros 1,000 arall. Dywedodd Netanyahu nad oedd y rhyfel yn erbyn Hezbollah yn Libanus yn rhan o'r cadoediad.
  • 8 Ebrill 2026: Ymosodiad ar burfa olew Ynys Lavan / cyfleuster Ynys Sirri, Iran. Ni chymerodd naill ai Israel na UDA gyfrifoldeb ar y pryd. Datgelwyd yn ddiweddarach mai'r Emiraethau Arabaidd Unedig eu hunain oedd wedi cynnal yr ymosodiad hwn yn gyfrinachol.
  • 8 Ebrill 2026: Iran yn ymateb gyda thaflegrau a drôniau ar ganolfannau milwrol UDA yn Sawdi Arabia, yr EAU, Cowait a Bahrain. Yn benodol, tarwyd seilwaith milwrol hanfodol yn Cowait gan ddrôniau.
  • Methu ailagor Culfor Hormuz yn llawn. Trwy gydol Mawrth ac Ebrill 2026, caniataodd Iran i longau o wledydd "an-elyniaethus" fel Tsieina, India, Malaysia, yr Aifft, Sbaen a De Corea groesi'r culfor (gan dalu ffioedd mewn arian yuan Tsieineaidd), tra'n parhau i rwystro llongau o wledydd a ystyriwyd yn gynghreiriaid UDA ac Israel, megis y Deyrnas Unedig ac Awstralia.
  • 8 Ebrill 2026: Drôn o Israel yn tresmasu dros Iran yn cael ei saethu i lawr. Adroddodd Iran ei fod wedi saethu drôn Israelaidd i lawr ar 8 Ebrill, gan rybuddio yn erbyn torri amodau'r cadoediad.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Israel ag America'n cynnal ymosodiad milwrol 'sylweddol' yn erbyn Iran", S4C (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
  2. ↑ "Iran yn taro'n ôl yn dilyn ymosodiadau Israel a'r UDA [sic] ar y wlad", S4C (1 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
  3. ↑ Gwyn Loader, "'Mae'n hollol ddryslyd beth sy'n digwydd': Adroddiad arbennig ar ryfel UDA-Israel ag Iran", S4C (4 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
  4. ↑ "Iran yn dewis Mojtaba Khamenei yn arweinydd newydd", S4C (9 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
  5. ↑ "Pris olew crai'n codi eto wedi ymosodiadau ar danceri olew yn y Gwlff", S4C (12 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mawrth 2026.
  6. ↑ "America ac Iran yn dod i gadoediad", S4C (7 Ebrill 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Ebrill 2026.
  7. ↑ ground.news; Teitl: Acting Navy Secretary Says Iran 'Blew the Hell Out of' U.S. Base in Bahrain; adalwyd 11 Medi 2026.
  8. ↑ 15:38 yn Amser Safonol Dwyrain America (EST), 23:08 yn Amser Safonol Iran (IRST), 22:38 yn Amser Safonol Israel (IST), 20:38 yn Amser Safonol Greenwich (GMT).
  9. ↑ 01:15 EST, 09:45 IRST, 08:15 IST, 06:15 GMT.
  10. ↑ (Saesneg) Lucia Stein, "How the US and Israel struck Iran in Operation Epic Fury", ABC News (3 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Mawrth 2026.
  11. ↑ (Almaeneg) Jacqueline Haddadian, "Angriff mitten im Ramadan – war das Absicht?", Stern (5 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Mawrth 2026.
  12. ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "IDF says 200 jets involved in Air Force’s largest-ever attack sortie", The Times of Israel (28 Chwefror 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Ebrill 2026.
  13. ↑ (Saesneg) Mehul Srivastava, James Shotter, Neri Zilber a Steff Chávez, "Inside the plan to kill Ali Khamenei", Financial Times (2 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Mawrth 2026.
  14. ↑ "Ymgyrch filwrol America yn erbyn Iran i 'dyfu'n sylweddol'", S4C (6 Mawrth 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Ebrill 2026.
  15. ↑ "America ac Iran yn methu dod i gytundeb dros heddwch", S4C (12 Ebrill 2026). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2026.