Ysbigoglys Seland Newydd
Gwedd
| Tetragonia tetragonioides | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Planhigyn blodeuol |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Aizoaceae |
| Genws: | Tetragonia |
| Rhywogaeth: | T. tetragonioides |
| Enw deuenwol | |
| Tetragonia tetragonioides Pallos) Kuntze | |
Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen (neu 'Deugotyledon') yw Ysbigoglys Seland Newydd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Aizoaceae yn y genws Tetragonia. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Tetragonia tetragonioides a'r enw Saesneg yw New zealand spinach.
Cynefin gwreiddiol 96% o'r teulu hwn o blanhigion yw gwledydd de Affrica, ond mae'r math arbennig hwn hefyd yn tyfu yn Seland Newydd, Awstralia, Japan, Tsile a'r Ariannin. Soniwyd amdano yn gyntaf gan y Capten James Cook, ac fe fwytawyd y planhigyn er mwyn atal sgyrfi; tyf mewn pridd hallt e.e. ger yr arfordir.
Ceir clystyrau o gelloedd ar wyneb y dail, sy'n edrych fel dagrau a blodau byachain melyn. Mae hyd pob deilen oddeutu 3–15 cm.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
