Sut mae mynd ati
Mae WordPress yn nodedig am fod yn hawdd a chyflym iawn i’w osod, gyda’r broses osod enwog yn para pum munud yn unig!
Dyma gyfarwyddiadau cryno:
- Y cam cyntaf yw dewis Lletywr Gwe (Web Host) er mwyn cael rhywle i osod y wefan WordPress.
- Yn ail, lawrlwythwch becyn WordPress ac yna defnyddio FTP i’w osod ar y gweinydd mae eich Letywr Gwe wedi ei ddarparu. Byddwch yn synnu mor hawdd yw creu gwefan gyda chymaint o nodweddion defnyddiol.
- Darllenwch y ddogfennaeth er mwyn dod yn arbenigwr WordPress go-iawn. Byddwn ni’n ceisio ychwanegu at y ddogfennaeth Gymraeg yn fuan.