De Asia| Math | rhanbarth  |
|---|
|
| Poblogaeth | 2,027,722,296  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Rhan o'r canlynol | Asia, Asia-Cefnfor Tawel  |
|---|
| Gwlad | Affganistan, Bangladesh, Bhwtan, India, Maldives, Nepal, Pacistan, Sri Lanca  |
|---|
| Gerllaw | Bae Bengal  |
|---|
| Yn ffinio gyda | Canolbarth Asia, Dwyrain Asia, De-ddwyrain Asia, De-orllewin Asia  |
|---|
| Cyfesurynnau | 26.9°N 72.2°E  |
|---|
 |
|
|
Rhanbarth deheuol cyfandir Asia yw De Asia sy'n cynnwys y gwledydd i dde'r Himalaya, ac yn ôl rhai diffiniadau y gwledydd cyfagos yn y gorllewin a'r dwyrain. Yn dopograffaidd fe'i dominyddir gan Blât India, sef isgyfandir India i dde'r Himalaya a'r Hindu Kush. Mae De Asia yn ffinio â Gorllewin Asia i'r gorllewin, Canolbarth Asia i'r gogledd, Dwyrain Asia (Tsieina) i'r gogledd, De Ddwyrain Asia i'r dwyrain, a Chefnfor India i'r de. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'r rhanbarth yn cynnwys Affganistan, Bangladesh, Bhwtan, India, Iran, Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanca.[1] Weithiau cynhwysir Myanmar a Tibet.
De Asia