Newton (uned)
Gwedd
| Enghraifft o: | uned ddeilliadol SI, uned grym, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jkgw |
Mae newton (symbol: N) yn uned SI rhyngwladol a ddefnyddir i fesur grym; gellir dweud mai grym ydy pwysau a fesurir mewn newtonau. Mae màs yn wahanol i grym ac yn cael ei fesur gan kilogramau. Achosir pwysau fodd bynnag gan dyniant disgyrchiant ac fe'i mesurir mewn niwtonau.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Mae'r newton yn uned sy'n gyfartal a swm y grym sydd ei angen i gyflymu gwrthrych sydd a mas o un kilogram ar raddfa o un metr yr eiliad yr eiliad.
Mae gwasgedd yn cael ei fesur mewn N/cm2 neu N/m2; enw arall ar yr olaf ydy pascal (Pa).
Gellir rhoi hyn mewn fformiwla:
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y mathemategwr a ffisegydd o Loegr Isaac Newton (1643–1727) mewn parch at ei waith ar fecaneg clasurol.