Charlie a'r Ffatri Siocled
![]() Clawr cyhoeddiad Americanaidd cyntaf cyntaf Charlie and the Chocolate Factory o 1964. | |
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Roald Dahl |
| Cyhoeddwr | Alfred A. Knopf |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1964 |
| Genre | children's fiction, humorous fiction, children's book |
| Olynwyd gan | Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0fv9n |
Llyfr ffantasi i blant gan Roald Dahl yw Charlie a'r Ffatri Siocled (Charlie and the Chocolate Factory), sy'n dilyn anturiaethau Charlie Bucket yn ffatri siocled Willy Wonka.
Cyhoeddwyd y stori Saesneg wreiddiol yn yr Unol Daleithiau ym 1964, gan Alfred A. Knopf Inc., ac yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn 1967 gan George Allen & Unwin. Mae wedi cael ei gyfieithu i 32 o wahanol ieithoedd. Cyhoeddwyd yn y Gymraeg gyntaf yn 2002, gan Rily Publications, y cyfieithiad gan Elin Meek.
Addaswyd y llyfr yn ddwy ffilm, Willy Wonka & the Chocolate Factory ym 1971, a Charlie and the Chocolate Factory yn 2005. Cyhoeddwyd dilyniant i'r llyfr yma, sef Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Saesneg: Charlie and the Great Glass Elevator), ym 1972. Roedd Dahl wedi bwriadu ysgrifennu trydydd llyfr yn y gyfres ond ni orffennodd hi.[1]
Stori
[golygu | golygu cod]Mae Charlie Bucket, un ar ddeg oed, yn byw mewn tlodi mewn tŷ bach gyda'i rieni a phedwar o neiniau a theidiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Martin Chilton (18 Nov 2010) The 25 best children's books The Daily Telegraph
