Henry Howard, Iarll Surrey
| Henry Howard, Iarll Surrey | |
|---|---|
| Ganwyd | 1516 Swydd Hertford |
| Bu farw | 19 Ionawr 1547 Tower Hill |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, gwleidydd, pendefig |
| Tad | Thomas Howard |
| Mam | Elizabeth Howard |
| Priod | Frances Howard |
| Plant | Jane Neville, Thomas Howard, 4ydd Dug Norfolk, Lady Katherine Howard, Henry Howard, Lady Margaret Howard |
| Llinach | Howard family |
| Gwobr/au | Knight of the Garter |
Bardd o Loegr oedd Henry Howard, Iarll Surrey (1517 – 19 Ionawr 1547).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Hunsdon, Swydd Hertford, yn fab i'r Arglwydd Thomas Howard. Pryd ddaeth ei dad yn Ddug Norfolk yn 1524, derbyniodd Henry y teitl cwrteisi Iarll Surrey. Bu'n byw yn Windsor o 1530 i 1532 gyda Henry FitzRoy, mab anghyfreithlon y Brenin Harri VIII a'i ordderch Elizabeth Blount, a oedd dan warchodaeth Thomas Howard. Yn 1532 priododd Henry â'r Foneddiges Frances de Vere (tua 1517–77), merch John de Vere, 15fed Iarll Rhydychen, er na chydbreswyliasent nes 1535. [1]
Gwasanaethodd yn filwr yn erbyn yr Albanwyr yn 1542 ac yn erbyn y Ffrancod. Fe'i penodwyd yn Llywodraethwr Boulogne yn 1545. Yn Rhagfyr 1546 cafodd ei garcharu ar gyhuddiad o chwarteru arfbais Edward Gyffeswr. Cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a'i ddedfrydu i'r gosb eithaf. Cafodd ei dorfynyglu ym Mryn y Tŵr, Llundain, ar 19 Ionawr 1547, yn 30 oed. Yn ôl pob sôn, efe oedd yr unigolyn olaf i'w ddienyddio yn ystod teyrnasiad y Brenin Harri.
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]| Llenyddiaeth Lloegr yn yr 16eg ganrif |
|---|
|
Sonedwyr a thelynegwyr yn Oes Harri |
|
Y Diwygiad Seisnig |
|
Barddoniaeth yn Oes Elisabeth |
|
Y ddrama yn Oes Elisabeth |
Howard a'i gyfaill Thomas Wyatt oedd y Saeson cyntaf i sonedu yn eu mamiaith, dan ddylanwad y soned Betrarchaidd. Dyfeisiodd y patrwm odli Saesneg ar y soned: tair adran o bedair llinell yr un, a chwpled i'w chloi. Howard hefyd oedd y cyntaf i gyfansoddi cerddi moel yn y Saesneg, hynny yw mesur cyson megis y pumban iambig ond yn ddiodl. Cyfieithodd ddau o lyfrau'r Aenëis gan Fyrsil ar fesur moel, a gyhoeddwyd dan y teitl Certain Bokes of Virgiles Aenaeis yn 1557.
Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi am y tro cyntaf yn y flodeugerdd Songes and Sonettes a gyhoeddwyd gan Richard Tottel ym 1557.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Henry Howard, Earl of Surrey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2019.