Neidio i'r cynnwys

Jack Sargeant

Oddi ar Wicipedia
Jack Sargeant
AS
Image
Aelod o Senedd Cymru
dros Alun a Glannau Dyfrdwy
Mewn swydd
7 Chwefror 2018[1] – 8 Ebrill 2026
Mwyafrif6,545 (35.3%)
Rhagflaenwyd ganCarl Sargeant
Manylion personol
Ganwyd1994 (31–32 oed)
Rhuddlan, Sir y Fflint
Plaid wleidyddolLlafur
Gwefanwww.jacksargeant.org

Gwleidydd Llafur yw Jack Sargeant (ganwyd 1994). Roedd yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy rhwng 2018 a 2026. Fe'i etholwyd mewn is-etholiad a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2018 ac fe'i ail-etholwyd yn etholiad 2021. Ni chafodd ei ail-ethol yn Etholiad Senedd 2026.[2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Mae'n fab i Carl Sargeant, Aelod Cynulliad a bu farw yn Nhachwedd 2017. Yn dilyn marwolaeth ei dad, sefodd yn yr un etholaeth.[3]

Magwyd Sargeant yn Nghei Connah ac aeth i Ysgol Gynradd Bryn Deva ac Ysgol Uwchardd Cei Connah. Gwnaeth prentisiaeth yng Ngholeg Deeside yn gweithio gyda busnes bach lleol, cyn astudio am radd peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Jack Sargeant AS = Proffil Aelod". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-07. Cyrchwyd 8 Chwefror 2018.
  2. ↑ "Pwy yw'r 16 AS a fethodd a chael eu hail-ethol?". BBC Cymru Fyw. 2026-05-09. Cyrchwyd 2026-05-09.
  3. ↑ Jack Sargeant yn dilyn ei dad i’r Cynulliad , Golwg360, 7 Chwefror 2018.
  4. ↑ Carl Sargeant's son bids to take his seat in the National Assembly (en) , WalesOnline, 10 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2018.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]