Lacerta
Gwedd
| Enghraifft o: | cytser |
|---|---|
| Dyddiad darganfod | 1687 |
| Rhan o | hemisffer wybrennol y gogledd |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01f180 |
Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Lacerta. "Lacerta" yw'r gair Lladin am "fadfall". Fe'i henwyd yn wreiddiol gan Johannes Hevelius yn 1687.[1] Fe'i lleolir rhwng y cytserau Cygnus, Cassiopeia ac Andromeda. Gorwedd y rhan ogleddol ar y Llwybr Llaethog. Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
