Neidio i'r cynnwys

Manorowen

Oddi ar Wicipedia
Manorowen
Image
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.9883°N 5.0086°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM935365 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Scleddau, Sir Benfro, Cymru, yw Manorowen[1][2] neu Maenorowen neu Manarwan.[3] Saif yng ngogledd y sir, tua 2 filltir i'r de-orllewin o Abergwaun, ar lôn yr A487 i gyfeiriad Tyddewi. Y pentrefi agosaf yw Scleddau i'r de a Llanwnda i'r gogledd.

Fel mae'r enw yn awgrymu, roedd maenor yma yn yr Oesoedd Canol, pan roedd Maenorowen yn rhan o gwmwd Pen Caer, un o ddau gwmwd cantref Pebidiog. Erys yr hen erddi o hyd ond mae'r plasdy wedi mynd.

Image
Hen ardd y plasty, Manorowen

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. ↑ British Place Names; adalwyd 12 Tachwedd 2021
  3. ↑ Enwau Cymru
Image Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato