Neidio i'r cynnwys

Marion Fenner

Oddi ar Wicipedia
Marion Fenner
Image
Ganwyd1952 Edit this on Wikidata
Cwmllynfell Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaPobol y Cwm Edit this on Wikidata

Actores o Gymraes sy'n fwyaf adnabyddus am bortreadu Metron Doreen Bevan yn y gyfres Pobol y Cwm yw Marion Fenner (ganwyd 1952). Bu'n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau a'r sgrin yng Nghymru ers y 1970au. Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru ym 1978 ac ymddangosodd mewn cynyrchiadau o ddramâu fel Esther, Sál a sawl pantomeim gan gynnwys Eli Babi, Mwstwr yn y Clwstwr a Rasus Cymylau. Cyhoeddodd ei hunangofiant Ŵ, Metron yn 2014 a gyhoeddwyd gan Y Lolfa.[1]

Fe'i ganed yng Nghwmllynfell. Hyfforddodd fel athrawes a bu'n dysgu yn Ysgol Gynradd Trebanos am saith mlynedd cyn ail-hyfforddi fel actores yn y Coleg Brenhinol Cerdd A Drama Cymru yn y 1970au.[2]

Ym 1982 ymunodd â chast Pobol y Cwm fel Metron Doreen Probert. Arhosodd fel rhan craidd o'r gyfres hyd at 1996, gan ddychwelyd ym 1999 am ail gyfnod. Rhwng cyfnodau ar yr opera sebon bu'n gwerthu colur a persawr yn Nghaerdydd. Mae Marion yn ymddangos yn aml ar Prynhawn Da ar S4C yn rhannu gwybodaeth a thipiau harddwch.

Gwaith ddethol

[golygu | golygu cod]

Theatr

[golygu | golygu cod]
Image
Cast y sioe Mwstwr Yn Y Clwstwr (1979)

Teledu A Ffilm

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Gwefan Y Lolfa".[dolen farw]
  2. ↑ "Marion Fenner". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 12 Medi 2024.