Neidio i'r cynnwys

Esther (drama)

Oddi ar Wicipedia
Esther
Image
Enghraifft o:gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurSaunders Lewis
CyhoeddwrDinefwr Press, Llandybïe
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiCyhoeddiad cyntaf: 1960
Argraffiad diweddaraf: Gorffennaf 2000
ISBN9780715406465
Tudalennau102 Edit this on Wikidata
GenreDrama
Dynodwyr

Drama gan Saunders Lewis yw Esther a gyhoeddwyd gyntaf yn 1960.[1] Comisiynwyd Esther yn wreiddiol gan y BBC fel drama radio yn 1958 ac fe'i llwyfannwyd am y tro cyntaf mewn gŵyl drama flynyddol yn Llangefni.[2] Seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ar hanes yr Iddewes, Esther, a geir yn y Beibl - stori llawn hunan aberth a chynllwyn. Roedd Esther (enw sy'n golygu seren neu hapusrwydd, yn yr Hebraeg) yn wraig i Ahasferus, Brenin Persia rhwng 485-465 CC ac yn Iddewes.

Addaswyd y ddrama ar gyfer plant a phobol ifanc gan CBAC yn 2000, yn un o dair drama Saunders Lewis.[3]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Y Frenhines Esther
  • Y Brenin Ahasferus - Brenin Persia
  • Haman - y Prif Weinidog
  • Harbona - Swyddog yn y Palas
  • Mordecai - Cefnder y Frenhines

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1950au

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchiad o'r ddrama radio ar gyfer Gwasanaeth Cartref y BBC.

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan "Gwmni Môn" yng Ngŵyl Ddrama Genedlaethol Llangefni yn 1959. Cyfarwyddwr H. Pierce Jones.[4]

1960au

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchiad Cwmni Drama Coleg y Gogledd gyda John Gwilym Jones yn cyfarwyddo yng Ngŵyl Theatr Garthewin yn 1960. Bu beirniadu hallt am y ffaith bod y cwmni wedi dewis "gwisg fodern" i'w chyflwyno.[4]

  • Esther - Wenna Thomas
  • Ahasferus - Elwyn Jones
  • Haman - R. Alun Evans
  • Harbona - Gwyn Cadnant Griffith
  • Mordecai - Gwyn Morgan Lloyd

1970au

[golygu | golygu cod]
Image
Rhaglen y cynhyrchiad o Esther 1979

Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn 1979. Cyfarwyddwr David Lyn; cynllunydd Martin Morley; rheolwr llwyfan Iestyn Garlick; dirprwy reolwr Elinor Roberts; cynorthwywr Julia Jones; goleuo a sain Gareth Jones; cynorthwyr Siôn Havard Gregory; gwisgoedd Gwyneth Roberts a Janice Dickson; prif saer: Glyn Richards; cast:

Image
Llun o gast cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Esther 1979

"Penderfyniad David oedd i ni fod yn Iddewon yn per[ff]ormio'r ddrama ar ŵyl y 'Purum'," yn ôl Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "pryd mae'r Iddewon yn dathlu bod y Frenhines Esther wedi eu hachub nhw fel cenedl. Esther wahanol oeddwn i ar y llwyfan i'r llun ohona i ar y poster. Dillad carpiog oedd ganddon ni i gyd, ac actorion dan hyfforddiant y Cwmni yn cymryd rhan fel y cyd-garcharorion. Fe wnaeth David y cynhyrchiad yn un ensemble lle'r oedd pawb yn cyfrif. Doeddwn i ddim yn teimlo mod i'n chwarae'r brif ran, dim ond yn un o dîm," ychwanegodd.[5]

2000au

[golygu | golygu cod]
Image
Cynhyrchiad 2006 Theatr Genedlaethol Cymru

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2006, pan oedd y cwmni o dan oruchwyliaeth Cefin Roberts. Dewiswyd Daniel Evans i gyfarwyddo'r cynhyrchiad, yr ail gynhyrchiad iddo'i gyfarwyddo'n broffesiynol.[6] Cynllunydd Guto Humphreys; cerddoriaeth Dyfan Jones; cast:

Derbyniodd y cynhyrchiad adolygiadau ffafriol iawn yn y Wasg. Dyma oedd gan adolygydd theatr Y Cymro i'w ddweud: "Mae Gŵyl y Purim yn ddiwrnod pwysig i’r Iddewon. Dyma’r dydd maen nhw’n diolch am ddewrder y Frenhines Esther am achub eu hil. Mi fydda innau’n fythol ddiolchgar am yr unfed-ar-hugain o Ebrill 2006, oherwydd dyma pryd y bu i Daniel Evans adfer fy ffydd innau yn y Ddrama Gymraeg! [...] Heb egwyl rhwng bob Act, fe blethwyd y cyfan yn fedrus a theatrig a hynny gyda graen brofiadol," nododd Paul Griffiths.[6]

"Ar ddechrau eu Tymor o Glasuron, mae'n braf cael datgan yn hyderus fod y Theatr Genedlaethol wedi dod i'w hoed," oedd barn Eifion Lloyd Jones ar wefan BBC Cymru; "Dyma gynhyrchiad teilwng a chaboledig, gyda sawl perfformiad nodedig ac un cwbl arbennig [...] Heb amheuaeth, Rhys Parry Jones oedd brenin y cynhyrchiad [...] 'Fedra'i ddim cofio gweld Rhys mewn cynhyrchiad llwyfan safonol o'r fath o'r blaen. A 'fedra'i ddim cofio gweld unrhyw actor yn rhagori ar ei berfformiad yma mewn unrhyw ddrama arall, ychwaith," ychwanegodd.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gwefan y BBC
  2. ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 4 Medi 2024.
  3. ↑ Ynys Môn
  4. 1 2 Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.
  5. ↑ Rhys, Maureen (2006). Prifio - hunangofiant Maureen Rhys. Gomer. ISBN 1 84323 762 8.
  6. 1 2 "Paul Griffiths". paulpesda.blogspot.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Medi 2024.
  7. ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 4 Medi 2024.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]