Québec (talaith)
| Arwyddair | Je me souviens |
|---|---|
| Math | Talaith Canada |
| Enwyd ar ôl | Québec |
| Prifddinas | Québec |
| Poblogaeth | 8,501,833 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | François Legault |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser yr Iwerydd, UTC−04:00 |
| Gefeilldref/i | Shanghai, Kyoto, Bafaria |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Canada |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,542,056 km² |
| Gerllaw | Llyn Champlain, Afon St Lawrence, Bae Hudson |
| Yn ffinio gyda | New Hampshire, Maine, Brunswick Newydd, Newfoundland a Labrador, Efrog Newydd, Vermont, Ontario, Nunavut |
| Cyfesurynnau | 52°N 72°W |
| Cod post | G, H, J |
| CA-QC | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Government of Quebec |
| Corff deddfwriaethol | Legislature of Quebec |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Canada |
| Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Premier of Quebec |
| Pennaeth y Llywodraeth | François Legault |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | 449,051 million C$ |
| Arian | doler |
| Cyfartaledd plant | 1.5708 |
Talaith fwyaf o ran tiriogaeth a'r ail o ran poblogaeth yng Nghanada yw Québec (Ffrangeg "Québec") neu yn Gymraeg Cwebéc.[1] Fe'i lleolir yn nwyrain Canada. I'r gorllewin mae talaith Ontario, Bae James a Bae Hudson; i'r gogledd mae Culfor Hudson a Bae Ungava; i'r dwyrain mae Gwlff St Lawrence a thaleithiau Newfoundland a Labrador a New Brunswick; ac i'r de mae'r Unol Daleithiau (taleithiau Efrog Newydd, New Hampshire, Vermont a Maine. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw ar lannau Afon St Lawrence, ac mae ardaloedd gogleddol y dalaith yn denau eu poblogaeth.
Québec yw'r unig dalaith yng Nghanada lle mae mwyafrif y boblogaeth (82%) yn siarad Ffrangeg fel mamiaith. Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol. Siaredir Saesneg fel mamiaith gan tuag 8% o'r boblogaeth gan fwyaf yn Montréal, dinas fwyaf poblog y dalaith, ac yn ardal Outaouais ar y ffin ag Ontario. Dinas Québec yw ei phrifddinas. Yn ôl y cyfreithiau iaith, mae'n rhaid i'r llythyrennau Ffrangeg ar arwyddion fod yn fwy na llythyrennau unrhyw iaith arall. [1] Mae hon yn achosi problemau i fwytai Tsieineaidd, achos bod rhaid i lythyrennau Tseineg fod yn eitha fawr i fod yn ddealladwy.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [Quebec].
| Taleithiau a thiriogaethau Canada | |
| Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec | |
| Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador | |
| Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon | |
